Cofeb genedlaethol yn Washington, D.C., prifddinas yr Unol Daleithiau, yw Cofeb Hen Filwyr Fietnam (Saesneg: Vietnam Veterans Memorial). Mae'n talu teyrnged i aelodau lluoedd arfog yr Unol Daleithiau a ymladdodd yn Rhyfel Fietnam, aelodau'r lluoedd fu farw tra'n gwasanaethu yn Ne Ddwyrain Asia, ac aelodau'r lluoedd fu ar goll ar faes y gad yn y gwrthdaro.
Mae'r gofeb yn cynnwys cerflun y Tri Milwr, Cofeb Menywod Fietnam, a Mur Cofeb Hen Filwyr Fietnam. Dyluniwyd y mur gan y pensaer o Americanes Maya Lin.
Developed by razib.in